Actau 23:33-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Wedi i'r rhain fynd i mewn i Gesarea, rhoesant y llythyr i'r rhaglaw, a throsglwyddo Paul iddo hefyd.

34. Darllenodd yntau'r llythyr, a holi o ba dalaith yr oedd yn dod. Pan ddeallodd ei fod o Cilicia,

35. dywedodd, “Gwrandawaf dy achos pan fydd dy gyhuddwyr hefyd wedi cyrraedd.” A gorchmynnodd ei gadw dan warchodaeth yn Praetoriwm Herod.

Actau 23