Actau 23:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Syllodd Paul ar y Sanhedrin, ac meddai, “Frodyr, yr wyf fi wedi byw â chydwybod lân gerbron Duw hyd y dydd hwn.”

2. Ond gorchmynnodd Ananias yr archoffeiriad i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ar ei geg.

3. Yna dywedodd Paul wrtho, “Y mae Duw yn mynd i'th daro di, tydi bared gwyngalchog. A wyt ti'n eistedd i'm barnu i yn ôl y Gyfraith, ac yna'n torri'r Gyfraith trwy orchymyn fy nharo?”

Actau 23