Actau 22:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.’

21. A dywedodd wrthyf, ‘Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.’ ”

22. Yr oeddent wedi gwrando arno hyd at y gair hwn, ond yna dechreusant weiddi, “Ymaith ag ef oddi ar y ddaear! Y mae'n warth fod y fath ddyn yn cael byw.”

Actau 22