Actau 21:25-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Ond am y credinwyr o blith y Cenhedloedd, yr ydym ni wedi ysgrifennu atynt a rhoi ein dyfarniad, eu bod i ymgadw rhag bwyta yr hyn a aberthwyd i eilunod, neu waed, neu'r hyn a dagwyd, a rhag anfoesoldeb rhywiol.”

26. Yna fe gymerodd Paul y gwŷr, a thrannoeth aeth trwy ddefod y pureiddio gyda hwy, ac aeth i mewn i'r deml, i roi rhybudd pa bryd y cyflawnid dyddiau'r pureiddio ac yr offrymid yr offrwm dros bob un ohonynt.

27. Ond pan oedd y saith diwrnod bron ar ben, gwelodd yr Iddewon o Asia ef yn y deml. Codasant gynnwrf yn yr holl dyrfa, a chymryd gafael ynddo,

28. gan weiddi, “Chwi Israeliaid, helpwch ni. Hwn yw'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhob man yn erbyn ein pobl a'r Gyfraith a'r lle hwn, ac sydd hefyd wedi dod â Groegiaid i mewn i'r deml, a halogi'r lle sanctaidd hwn.”

29. Oherwydd yr oeddent cyn hynny wedi gweld Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, ac yr oeddent yn meddwl fod Paul wedi dod ag ef i mewn i'r deml.

30. Cyffrowyd yr holl ddinas, a rhuthrodd y bobl ynghyd. Cymerasant afael yn Paul, a'i lusgo allan o'r deml, a chaewyd y drysau ar unwaith.

31. Fel yr oeddent yn ceisio'i ladd ef, daeth neges at gapten y fintai fod Jerwsalem i gyd mewn cynnwrf.

32. Cymerodd yntau filwyr a chanwriaid ar unwaith, a rhedeg i lawr atynt; a phan welsant hwy'r capten a'r milwyr, rhoesant y gorau i guro Paul.

33. Yna daeth y capten atynt, a chymryd gafael yn Paul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn. Dechreuodd holi pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneud.

34. Yr oedd rhai yn y dyrfa yn bloeddio un peth, ac eraill beth arall. A chan na allai ddod o hyd i'r gwir oherwydd y dwndwr, gorchmynnodd ei ddwyn i'r pencadlys.

35. A phan ddaeth Paul at y grisiau, bu raid i'r milwyr ei gario oherwydd ffyrnigrwydd y dyrfa,

36. oblegid yr oedd tyrfa o bobl yn canlyn dan weiddi, “Ymaith ag ef!”

37. Pan oedd ar fin cael ei ddwyn i mewn i'r pencadlys, dyma Paul yn dweud wrth y capten, “A gaf fi ddweud gair wrthyt?” Meddai yntau, “A wyt ti yn medru Groeg?

38. Nid tydi felly yw'r Eifftiwr a gododd derfysg beth amser yn ôl ac a arweiniodd allan i'r anialwch y pedair mil o derfysgwyr arfog?”

39. Dywedodd Paul, “Iddew wyf fi, o Darsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac rwy'n erfyn arnat, caniatâ imi lefaru wrth y bobl.”

Actau 21