Actau 20:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. ond bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu imi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.

24. Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.

25. “Ac yn awr, rwy'n gwybod na chewch weld fy wyneb mwyach, chwi oll y bûm i'n teithio yn eich plith gan gyhoeddi'r Deyrnas.

26. Gan hynny, yr wyf yn tystio i chwi y dydd hwn fy mod yn ddieuog o waed unrhyw un;

27. oblegid nid ymateliais rhag cyhoeddi holl arfaeth Duw i chwi.

28. Gofalwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn arolygwyr drosto, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a enillodd ef â gwaed ei briod un.

Actau 20