Actau 2:34-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud:“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulaw,

35. nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’

36. “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”

37. Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?”

Actau 2