Actau 19:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Aeth i mewn i'r synagog, ac am dri mis bu'n llefaru'n hy yno, gan ymresymu a cheisio'u hargyhoeddi ynghylch teyrnas Dduw.

9. Ond gan fod rhai yn ymgaledu ac yn gwrthod credu, ac yn difenwi'r Ffordd yng ngŵydd y gynulleidfa, ymneilltuodd oddi wrthynt gan gymryd ei ddisgyblion oddi yno, a pharhau i ymresymu bob dydd yn narlithfa Tyranus.

10. Parhaodd hyn am ddwy flynedd, nes i holl drigolion Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd.

11. Gan mor rhyfeddol oedd y gwyrthiau yr oedd Duw'n eu gwneud trwy ddwylo Paul,

12. byddai pobl yn dod â chadachau a llieiniau oedd wedi cyffwrdd â'i groen ef, ac yn eu gosod ar y cleifion, a byddai eu clefydau yn eu gadael, a'r ysbrydion drwg yn mynd allan ohonynt.

Actau 19