Actau 17:4-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Cafodd rhai ohonynt eu hargyhoeddi, ac ymuno â Paul a Silas; ac felly hefyd y gwnaeth lliaws mawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ac nid ychydig o'r gwragedd blaenaf.

5. Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dihirod o blith segurwyr y sgwâr, a'u casglu'n dorf, dechreusant greu terfysg yn y ddinas. Ymosodasant ar dŷ Jason, a cheisio dod â Paul a Silas allan gerbron y dinasyddion.

6. Ond wedi methu dod o hyd iddynt hwy, llusgasant Jason a rhai credinwyr o flaen llywodraethwyr y ddinas, gan weiddi, “Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd,

7. ac y mae Jason wedi rhoi croeso iddynt; y mae'r bobl hyn i gyd yn troseddu yn erbyn ordeiniadau Cesar trwy ddweud fod brenin arall, sef Iesu.”

8. Cyffrowyd y dyrfa a'r llywodraethwyr pan glywsant hyn,

9. ond ar ôl derbyn gwarant gan Jason a'r lleill, gollyngasant hwy'n rhydd.

10. Cyn gynted ag iddi nosi, anfonodd y credinwyr Paul a Silas i Berea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon.

11. Yr oedd y rhain yn fwy eangfrydig na'r rhai yn Thesalonica, gan iddynt dderbyn y gair â phob eiddgarwch, gan chwilio'r Ysgrythurau beunydd i weld a oedd pethau fel yr oeddent hwy yn dweud.

12. Gan hynny, credodd llawer ohonynt, ac nid ychydig o'r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr.

13. Ond pan ddaeth Iddewon Thesalonica i wybod fod gair Duw wedi ei gyhoeddi gan Paul yn Berea hefyd, daethant i godi terfysg a chythryblu'r tyrfaoedd yno hefyd.

14. Yna anfonodd y credinwyr Paul ymaith yn ddi-oed i fynd hyd at y môr, ond arhosodd Silas a Timotheus yno.

15. Daeth hebryngwyr Paul ag ef i Athen, ac aethant oddi yno gyda gorchymyn i Silas a Timotheus ddod ato cyn gynted ag y gallent.

16. Tra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddwyd ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.

17. Gan hynny, ymresymodd yn y synagog â'r Iddewon ac â'r rhai oedd yn addoli Duw, ac yn y sgwâr bob dydd â phwy bynnag a fyddai yno.

18. Yr oedd rhai o'r athronwyr, yn Epicwriaid a Stoiciaid, yn dadlau ag ef hefyd, a rhai'n dweud, “Beth yn y byd y mae'r clebryn yma yn mynnu ei ddweud?” Meddai eraill, “Y mae'n ymddangos ei fod yn cyhoeddi duwiau dieithr.” Oherwydd cyhoeddi'r newydd da am Iesu a'r atgyfodiad yr oedd.

19. Cymerasant afael ynddo, a mynd ag ef at yr Areopagus, gan ddweud, “A gawn ni wybod beth yw'r ddysgeidiaeth newydd yma a draethir gennyt ti?

20. Oherwydd yr wyt yn dwyn i'n clyw ni ryw syniadau dieithr. Yr ydym yn dymuno cael gwybod, felly, beth yw ystyr y pethau hyn.”

21. Nid oedd gan neb o'r Atheniaid, na'r dieithriaid oedd ar ymweliad â'r lle, amser i ddim arall ond i adrodd neu glywed y peth diweddaraf.

Actau 17