Actau 17:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ond pan ddaeth Iddewon Thesalonica i wybod fod gair Duw wedi ei gyhoeddi gan Paul yn Berea hefyd, daethant i godi terfysg a chythryblu'r tyrfaoedd yno hefyd.

14. Yna anfonodd y credinwyr Paul ymaith yn ddi-oed i fynd hyd at y môr, ond arhosodd Silas a Timotheus yno.

15. Daeth hebryngwyr Paul ag ef i Athen, ac aethant oddi yno gyda gorchymyn i Silas a Timotheus ddod ato cyn gynted ag y gallent.

16. Tra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddwyd ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.

17. Gan hynny, ymresymodd yn y synagog â'r Iddewon ac â'r rhai oedd yn addoli Duw, ac yn y sgwâr bob dydd â phwy bynnag a fyddai yno.

Actau 17