Actau 16:38-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Adroddodd y rhingylliaid y neges hon wrth yr ynadon, a chawsant hwy fraw pan glywsant mai Rhufeinwyr oedd Paul a Silas.

39. Aethant i ymddiheuro iddynt, ac wedi eu tywys hwy allan, gofynasant iddynt fynd i ffwrdd o'r ddinas.

40. Wedi dod allan o'r carchar, aethant i dŷ Lydia, a gwelsant y credinwyr, a'u calonogi. Yna aethant ymaith.

Actau 16