Actau 15:36-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, “Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld â'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt.”

37. Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy;

38. ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio â hwy.

39. Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus;

40. ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd.

41. A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.

Actau 15