Actau 15:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: “Os nad enwaedir arnoch yn ôl defod Moses, ni ellir eich achub.”

2. A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglŷn â'r cwestiwn yma.

3. Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dröedigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr.

4. Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy.

5. Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, “Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses.”

6. Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma.

7. Ar ôl llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: “Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu.

8. Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Glân yr un fath ag i ninnau;

9. ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd.

10. Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn?

11. Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd.”

12. Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.

13. Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.

14. Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw.

15. Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno â hyn, fel y mae'n ysgrifenedig:

Actau 15