Actau 14:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Ond er dweud hyn, o'r braidd yr ataliasant y tyrfaoedd rhag offrymu aberth iddynt.

19. Daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium; ac wedi iddynt berswadio'r tyrfaoedd, lluchiasant gerrig at Paul, a'i lusgo allan o'r ddinas, gan dybio ei fod wedi marw.

20. Ond ffurfiodd y disgyblion gylch o'i gwmpas, a chododd yntau a mynd i mewn i'r ddinas. Trannoeth, aeth ymaith gyda Barnabas i Derbe.

Actau 14