17. Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd.”
18. Ond er dweud hyn, o'r braidd yr ataliasant y tyrfaoedd rhag offrymu aberth iddynt.
19. Daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium; ac wedi iddynt berswadio'r tyrfaoedd, lluchiasant gerrig at Paul, a'i lusgo allan o'r ddinas, gan dybio ei fod wedi marw.
20. Ond ffurfiodd y disgyblion gylch o'i gwmpas, a chododd yntau a mynd i mewn i'r ddinas. Trannoeth, aeth ymaith gyda Barnabas i Derbe.
21. Buont yn cyhoeddi'r newydd da i'r ddinas honno, ac wedi gwneud disgyblion lawer, dychwelsant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia,
22. a chadarnhau eneidiau'r disgyblion a'u hannog i lynu wrth y ffydd, gan ddweud, “Trwy lawer o gyfyngderau yr ydym i fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
23. Penodasant iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a'u cyflwyno, ar ôl gweddïo ac ymprydio, i'r Arglwydd yr oeddent wedi credu ynddo.
24. Wedi iddynt deithio trwy Pisidia, daethant i Pamffylia;
25. ac wedi llefaru'r gair yn Perga, aethant i lawr i Atalia,
26. ac oddi yno hwyliasant i Antiochia, i'r fan lle'r oeddent wedi eu cyflwyno i ras Duw at y gwaith yr oeddent wedi ei gyflawni.