Actau 13:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. yr oedd hwn gyda'r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallus. Galwodd hwnnw Barnabas a Saul ato, a cheisio cael clywed gair Duw.

8. Ond yr oedd Elymas y dewin (felly y cyfieithir ei enw) yn eu gwrthwynebu, ac yn ceisio gwyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd.

9. Ond dyma Saul (a elwir hefyd yn Paul), wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, yn syllu arno

10. ac yn dweud, “Ti, sy'n llawn o bob twyll a phob dichell, fab diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gwyrdroi union ffyrdd yr Arglwydd?

11. Yn awr dyma law'r Arglwydd arnat, ac fe fyddi'n ddall, heb weld yr haul, am beth amser.” Ac ar unwaith syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a dyna lle'r oedd yn ymbalfalu am rywun i estyn llaw iddo.

12. Yna pan welodd y rhaglaw beth oedd wedi digwydd, daeth i gredu, wedi ei synnu'n fawr gan y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd.

Actau 13