Actau 13:49-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. Yr oedd gair yr Arglwydd yn ymdaenu drwy'r holl fro.

50. Ond fe gyffrôdd yr Iddewon y gwragedd bonheddig oedd yn addolwyr Duw, a phrif wŷr y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a'u bwrw allan o'u hardal.

51. Ysgydwasant hwythau'r llwch oddi ar eu traed yn eu herbyn, a daethant i Iconium.

52. A llanwyd y disgyblion â llawenydd ac â'r Ysbryd Glân.

Actau 13