30. Ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw;
31. ac fe ymddangosodd dros ddyddiau lawer i'r rhai oedd wedi dod i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, ac y mae'r rhain yn awr yn dystion iddo i'r bobl.
32. Yr ydym ninnau yn cyhoeddi i chwi newydd da am yr addewid a wnaed i'r hynafiaid, fod Duw wedi ei llwyr gyflawni hi i ni eu plant trwy atgyfodi Iesu,
33. fel y mae'n ysgrifenedig hefyd yn yr ail Salm:“ ‘Fy mab wyt ti;myfi a'th genhedlodd di heddiw.’
34. “Ac am ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw, byth i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y mae wedi dweud fel hyn:“ ‘Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd sy'n perthyn i Ddafydd, y pethau sicr.’
35. “Oherwydd mewn lle arall eto y mae'n dweud:“ ‘Ni adewi i'th Sanct weld llygredigaeth.’
36. “Canys Dafydd, wedi iddo yn ei genhedlaeth ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a fu farw, ac a roddwyd i orffwys gyda'i dadau, a gwelodd lygredigaeth;
37. ond yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd hwnnw lygredigaeth.
38. Felly bydded hysbys i chwi, frodyr, mai trwy hwn y cyhoeddir i chwi faddeuant pechodau,
39. a thrwy hwn y rhyddheir pawb sy'n credu oddi wrth yr holl bethau nad oedd modd eich rhyddhau oddi wrthynt trwy Gyfraith Moses.
40. Gwyliwch, ynteu, na ddaw arnoch yr hyn a ddywedwyd yn y proffwydi:
41. “ ‘Gwelwch, chwi ddirmygwyr,a rhyfeddwch, a diflannwch,oherwydd yr wyf fi'n cyflawni gweithred yn eich dyddiau chwi,gweithred na chredwch ynddi byth, er ei hadrodd yn llawn ichwi.’ ”
42. Wrth iddynt fynd allan, yr oedd y bobl yn deisyf arnynt i lefaru'r pethau hyn wrthynt y Saboth wedyn.
43. Wedi i'r gynulleidfa gael ei gollwng, aeth llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid oedd yn addolwyr Duw, ar ôl Paul a Barnabas, a buont hwythau yn llefaru wrthynt ac yn eu hannog i lynu wrth ras Duw.
44. Y Saboth dilynol, daeth bron yr holl ddinas ynghyd i glywed gair yr Arglwydd.
45. Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd fe'u llanwyd â chenfigen, ac yr oeddent yn gwrth-ddweud y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, gan ei ddifenwi.
46. Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy: “I chwi,” meddent, “yr oedd yn rhaid llefaru gair Duw yn gyntaf. Ond gan eich bod yn ei wrthod, ac yn eich dyfarnu eich hunain yn annheilwng o'r bywyd tragwyddol, dyma ni'n troi at y Cenhedloedd.
47. Oblegid hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni:“ ‘Gosodais di yn oleuni'r Cenhedloedd,iti fod yn gyfrwng iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.’ ”
48. Wrth glywed hyn, yr oedd y Cenhedloedd yn llawenychu ac yn gogoneddu gair yr Arglwydd, a chredodd cynifer ag oedd wedi eu penodi i fywyd tragwyddol.
49. Yr oedd gair yr Arglwydd yn ymdaenu drwy'r holl fro.