Actau 13:14-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Aethant hwythau yn eu blaenau o Perga a chyrraedd Antiochia Pisidia, ac aethant i'r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd yno.

15. Ar ôl y darllen o'r Gyfraith a'r proffwydi, anfonodd arweinwyr y synagog atynt a gofyn, “Frodyr, os oes gennych air o anogaeth i'r bobl, traethwch.”

16. Cododd Paul, ac wedi amneidio â'i law dywedodd:“Chwi Israeliaid, a chwi eraill sy'n ofni Duw, gwrandewch.

17. Duw'r bobl hyn, Israel, a ddewisodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl pan oeddent yn estroniaid yng ngwlad yr Aifft, ac â braich estynedig fe ddaeth â hwy allan oddi yno.

18. Am ryw ddeugain mlynedd bu'n cydymddwyn â hwy yn yr anialwch.

19. Yna dinistriodd saith genedl yng ngwlad Canaan, a rhoi eu tir hwy yn etifeddiaeth iddynt

20. am ryw bedwar can mlynedd a hanner. Ac wedi hynny rhoddodd iddynt farnwyr hyd at y proffwyd Samuel.

21. Ar ôl hyn gofynasant am gael brenin, a rhoddodd Duw iddynt Saul fab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, am ddeugain mlynedd.

22. Yna fe'i diorseddodd ef, a chodi Dafydd yn frenin iddynt, a thystiolaethu iddo gan ddweud, ‘Cefais Ddafydd fab Jesse yn ŵr wrth fodd fy nghalon, un a wna bob peth yr wyf yn ei ewyllysio.’

23. O blith disgynyddion hwn y daeth Duw, yn ôl ei addewid, â Gwaredwr i Israel, sef Iesu.

Actau 13