Actau 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd yn yr eglwys oedd yn Antiochia broffwydi ac athrawon—Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, un o wŷr llys y Tywysog Herod, a Saul.

2. Tra oeddent hwy'n offrymu addoliad i'r Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith yr wyf wedi eu galw iddo.”

3. Yna, wedi ymprydio a gweddïo a rhoi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwy.

Actau 13