Actau 12:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ar ddiwrnod penodedig, â'i wisg frenhinol amdano, eisteddodd Herod ar ei orsedd a dechrau eu hannerch;

22. a bloeddiodd y bobl, “Llais Duw ydyw, nid llais dyn!”

23. Ar unwaith trawodd angel yr Arglwydd ef, am nad oedd wedi rhoi'r gogoniant i Dduw; ac fe'i hyswyd gan bryfed, a threngodd.

24. Yr oedd gair yr Arglwydd yn cynyddu ac yn mynd ar led.

25. Dychwelodd Barnabas a Saul o Jerwsalem wedi iddynt gyflawni eu gwaith, a chymryd gyda hwy Ioan, a gyfenwid Marc.

Actau 12