Actau 10:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. ac adroddodd y cwbl wrthynt a'u hanfon i Jopa.

9. Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agosáu at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i weddïo, tua chanol dydd.

10. Daeth chwant bwyd arno ac eisiau cael pryd; a thra oeddent yn ei baratoi, aeth i lesmair.

11. Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua'r ddaear.

12. O'i mewn yr oedd holl anifeiliaid ac ymlusgiaid y ddaear ac adar yr awyr.

13. A daeth llais ato, “Cod, Pedr, lladd a bwyta.”

Actau 10