Actau 10:6-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae hwn yn lletya gyda rhyw farcer o'r enw Simon, sydd â'i dŷ wrth y môr.”

7. Wedi i'r angel oedd yn llefaru wrtho ymadael, galwodd ddau o'r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o'i weision agos,

8. ac adroddodd y cwbl wrthynt a'u hanfon i Jopa.

9. Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agosáu at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i weddïo, tua chanol dydd.

10. Daeth chwant bwyd arno ac eisiau cael pryd; a thra oeddent yn ei baratoi, aeth i lesmair.

11. Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua'r ddaear.

12. O'i mewn yr oedd holl anifeiliaid ac ymlusgiaid y ddaear ac adar yr awyr.

13. A daeth llais ato, “Cod, Pedr, lladd a bwyta.”

14. Dywedodd Pedr, “Na, na, Arglwydd; nid wyf fi erioed wedi bwyta dim halogedig nac aflan.”

15. A thrachefn eilwaith meddai'r llais wrtho, “Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti â'i alw'n halogedig.”

16. Digwyddodd hyn deirgwaith; yna yn sydyn cymerwyd y peth i fyny i'r nef.

17. Tra oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth allai ystyr y weledigaeth fod, dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi iddynt holi am dŷ Simon, yn dod ac yn sefyll wrth y drws.

18. Galwasant a gofyn, “A yw Simon, a gyfenwir Pedr, yn lletya yma?”

19. Tra oedd Pedr yn synfyfyrio ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd, “Y mae yma dri dyn yn chwilio amdanat.

20. Cod, dos i lawr, a dos gyda hwy heb amau dim, oherwydd myfi sydd wedi eu hanfon.”

Actau 10