Actau 10:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Tra oedd Pedr yn synfyfyrio ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd, “Y mae yma dri dyn yn chwilio amdanat.

20. Cod, dos i lawr, a dos gyda hwy heb amau dim, oherwydd myfi sydd wedi eu hanfon.”

21. Aeth Pedr i lawr at y dynion, ac meddai, “Dyma fi, y dyn yr ydych yn chwilio amdano. Pam y daethoch yma?”

Actau 10