Actau 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd rhyw ŵr yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi;

2. gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gweddïo ar Dduw yn gyson.

3. Tua thri o'r gloch y prynhawn, gwelodd yn eglur mewn gweledigaeth angel Duw yn dod i mewn ato ac yn dweud wrtho, “Cornelius.”

4. Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, “Beth sydd, f'arglwydd?” Dywedodd yr angel wrtho, “Y mae dy weddïau a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw.

Actau 10