Actau 10:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd rhyw ŵr yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi;

2. gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gweddïo ar Dduw yn gyson.

Actau 10