1. Yr oedd rhyw ŵr yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi;
2. gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gweddïo ar Dduw yn gyson.
3. Tua thri o'r gloch y prynhawn, gwelodd yn eglur mewn gweledigaeth angel Duw yn dod i mewn ato ac yn dweud wrtho, “Cornelius.”
4. Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, “Beth sydd, f'arglwydd?” Dywedodd yr angel wrtho, “Y mae dy weddïau a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw.
5. Ac yn awr anfon ddynion i Jopa i gyrchu dyn o'r enw Simon, a gyfenwir Pedr.
6. Y mae hwn yn lletya gyda rhyw farcer o'r enw Simon, sydd â'i dŷ wrth y môr.”
7. Wedi i'r angel oedd yn llefaru wrtho ymadael, galwodd ddau o'r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o'i weision agos,
8. ac adroddodd y cwbl wrthynt a'u hanfon i Jopa.
9. Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agosáu at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i weddïo, tua chanol dydd.
10. Daeth chwant bwyd arno ac eisiau cael pryd; a thra oeddent yn ei baratoi, aeth i lesmair.
11. Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua'r ddaear.
12. O'i mewn yr oedd holl anifeiliaid ac ymlusgiaid y ddaear ac adar yr awyr.