2 Timotheus 4:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.

19. Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.

20. Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus.

2 Timotheus 4