8. Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu.
9. Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw.
10. Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd â gogoniant tragwyddol.
11. Dyma air i'w gredu:“Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef;
12. os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef;os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau;
13. os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon,oherwydd ni all ef ei wadu ei hun.”
14. Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngŵydd Duw i beidio â dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando.