2 Samuel 7:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; rhoddaf iti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn dy hysbysu mai ef, yr ARGLWYDD, fydd yn gwneud tŷ i ti.

12. Pan ddaw dy ddyddiau i ben, a thithau'n gorwedd gyda'th hynafiaid, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu ohonot, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn.

13. Ef fydd yn adeiladu tŷ i'm henw, a gwnaf innau orsedd ei deyrnas yn gadarn am byth.

14. Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi. Pan fydd yn troseddu, ceryddaf ef â gwialen fel y gwna rhywun, ac â chernodiau dynol,

15. ond ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth Saul pan symudais ef o'r ffordd o'th flaen.

16. Sicrheir dy deulu a'th deyrnas am byth o'm blaen; erys dy orsedd yn gadarn hyd byth.’ ”

17. Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef.

18. Yna aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, “Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod â mi hyd yma?

19. Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Arglwydd DDUW, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglŷn â theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a gwneud hyn yn drefn dragwyddol, O Arglwydd DDUW.

20. Beth yn rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt, a thithau yn adnabod dy was, O Arglwydd DDUW?

21. Oherwydd dy addewid, ac yn ôl dy ewyllys, y gwnaethost yr holl fawredd hwn, a'i hysbysu i'th was.

22. Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti.

23. A phwy sydd fel dy bobl Israel, cenedl unigryw ar y ddaear? Aeth Duw ei hun i'w phrynu iddo'n bobl, ac i ennill bri iddo'i hun, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy er ei mwyn, trwy fwrw allan genhedloedd a'u duwiau o flaen dy bobl, y rhai a brynaist i ti dy hun o'r Aifft.

24. Sicrheaist ti dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.

2 Samuel 7