2 Samuel 3:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth fab Saul, a dweud, “Rho imi fy ngwraig Michal, a ddyweddïais imi am gant o flaengrwyn Philistiaid.”

15. Anfonodd Isboseth a'i chymryd oddi wrth ei gŵr Paltiel fab Lais.

16. Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hôl hyd Bahurim, ond wedi i Abner ddweud wrtho, “Dos yn d'ôl”, fe ddychwelodd adref.

17. Anfonodd Abner air at henuriaid Israel a dweud, “Ers tro byd buoch yn ceisio cael Dafydd yn frenin arnoch.

18. Yn awr, gweithredwch; oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dweud am Ddafydd, ‘Trwy law fy ngwas Dafydd y gwaredaf fy mhobl Israel oddi wrth y Philistiaid a'u gelynion i gyd.’ ”

2 Samuel 3