2 Samuel 23:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. “Yn sicr, onid felly y mae fy nheulu gyda Duw?Oherwydd gwnaeth gyfamod tragwyddol â mi,un trefnus ym mhob cymal, a diogel.Ef yw fy nghymorth i gyd a'm dymuniad;oni rydd lwyddiant i mi?

6. ‘Y mae'r dihirod i gyd fel drain a dorrir i lawr,am na ellir eu casglu â llaw.

7. Nid oes neb yn eu cyffwrddond â haearn neu goes gwaywffon,a'u llosgi'n llwyr yn y man lle maent.’ ”

8. Dyma enwau'r gwroniaid oedd gan Ddafydd: Isbaal yr Hachmoniad oedd pen y Tri; chwifiodd ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben wyth gant o laddedigion ar un tro.

9. Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.

2 Samuel 23