2 Samuel 23:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun.

22. Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.

23. Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.

24. Yr oedd Asahel brawd Joab ymysg y Deg ar Hugain, hefyd Elhanan fab Dodo o Fethlehem,

25. Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,

26. Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad,

27. Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,

28. Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,

29. Heleb fab Baana y Netoffathiad, Itai fab Ribai o Gibea meibion Benjamin,

2 Samuel 23