2 Samuel 21:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bu newyn yn nyddiau Dafydd am dair blynedd yn olynol. Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, ac atebodd yr ARGLWYDD fod Saul a'i dylwyth yn euog o waed am iddo ladd trigolion Gibeon.

2. Galwodd y brenin drigolion Gibeon a'u holi. Nid Israeliaid oedd y Gibeoniaid, ond gweddill o'r Amoriaid, ac yr oedd yr Israeliaid wedi gwneud cytundeb heddwch â hwy; eto yr oedd Saul wedi ceisio'u difa yn ei sêl dros yr Israeliaid a'r Jwdeaid.

3. Gofynnodd Dafydd i'r Gibeoniaid, “Beth a gaf ei wneud ichwi? Sut y gwnaf iawn, er mwyn ichwi fendithio etifeddiaeth yr ARGLWYDD?”

4. Dywedodd trigolion Gibeon wrtho, “Nid mater o arian ac aur yw hi rhyngom ni a Saul a'i deulu, ac nid mater i ni yw lladd neb yn Israel.” Dywedodd y brenin, “Beth bynnag a ofynnwch, fe'i gwnaf i chwi.”

5. Dywedasant hwythau, “Am y dyn a'n difaodd ni ac a fwriadodd ein diddymu rhag cael lle o gwbl o fewn terfynau Israel,

6. rhodder inni saith dyn o'i ddisgynyddion, fel y gallwn eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea Saul ym mynydd yr ARGLWYDD.” Cytunodd y brenin i'w rhoi.

7. Ond fe arbedodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul oherwydd y llw yn enw'r ARGLWYDD a oedd rhyngddynt, sef rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.

8. Cymerodd y brenin y ddau fab yr oedd Rispa ferch Aia wedi eu geni i Saul, sef Armoni a Meffiboseth, hefyd y pum mab yr oedd Merab ferch Saul wedi eu geni i Adriel fab Barsilai o Mehola.

9. Trosglwyddodd hwy i'r Gibeoniaid, a chrogasant hwythau hwy yn y mynydd o flaen yr ARGLWYDD; syrthiodd y saith ohonynt gyda'i gilydd. Lladdwyd hwy yn nyddiau cyntaf y cynhaeaf, ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.

2 Samuel 21