2 Samuel 20:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd yn digwydd bod yno ddihiryn o'r enw Seba fab Bichri, o lwyth Benjamin. Canodd ef yr utgorn a chyhoeddi,“Nid oes i ni gyfran yn Nafydd,nac etifeddiaeth ym mab Jesse.Pob un i'w babell, O Israel!”

2. Yna ciliodd yr Israeliaid oddi wrth Ddafydd, a dilyn Seba fab Bichri; ond glynodd y Jwdeaid wrth eu brenin bob cam, o'r Iorddonen i Jerwsalem.

3. Wedi i'r Brenin Dafydd gyrraedd Jerwsalem, cymerodd y deg gordderchwraig a adawyd i ofalu am y tŷ, a'u rhoi dan warchod; yr oedd yn rhoi eu cynhaliaeth iddynt, ond heb fynd i mewn atynt. A buont dan glo hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw fel gweddwon.

4. Yna dywedodd y brenin wrth Amasa, “Galw ynghyd ataf filwyr Jwda, a bydd yn ôl yma o fewn tridiau.”

2 Samuel 20