8. Yr oedd Abner fab Ner, cadfridog Saul, wedi cymryd Isboseth fab Saul ac wedi mynd ag ef drosodd i Mahanaim.
9. Gwnaeth ef yn frenin dros Gilead, pobl Aser, Jesreel, Effraim a Benjamin, a thros Israel gyfan.
10. Deugain oed oedd Isboseth fab Saul pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd; ond yr oedd tŷ Jwda yn dilyn Dafydd.
11. Saith mlynedd a chwe mis oedd hyd y cyfnod y bu Dafydd yn frenin ar dŷ Jwda yn Hebron.
12. Aeth Abner fab Ner gyda dilynwyr Isboseth allan o Mahanaim tua Gibeon.
13. Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall.
14. Ac meddai Abner wrth Joab, “Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau.” Cytunodd Joab.
15. Yna daethant ymlaen, a chyfrifwyd deuddeg o lwyth Benjamin ar ochr Isboseth fab Saul, a deuddeg o blith dilynwyr Dafydd.
16. Cydiodd pob un ym mhen ei wrthwynebydd a thrywanu ei gleddyf i'w ystlys, a syrthiodd y cwbl gyda'i gilydd; am hynny galwyd y lle hwnnw sydd yn Gibeon yn Helcath-hasurim.
17. Bu brwydr galed iawn y diwrnod hwnnw, a threchwyd Abner fab Ner a'r Israeliaid gan ddilynwyr Dafydd.
18. Yr oedd tri mab Serfia yno, Joab, Abisai ac Asahel; ac yr oedd Asahel cyn gyflymed ei draed ag unrhyw ewig ar y ddôl.
19. Rhedodd Asahel ar ôl Abner heb wyro i'r dde na'r chwith oddi ar ei ôl.
20. Edrychodd Abner o'i ôl a dywedodd, “Ai ti sydd yna, Asahel?” Atebodd yntau, “Ie.”
21. Dywedodd Abner wrtho, “Tro draw i'r dde neu i'r chwith, a dal un o'r llanciau, a chymer ei arfau ef.” Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl.
22. Dywedodd Abner eto wrth Asahel, “Tro draw oddi wrthyf; pam y mae'n rhaid imi dy daro i'r llawr? Sut y gallwn wynebu dy frawd Joab?”
23. Ond gwrthododd droi draw, a thrawodd Abner ef yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy ei gefn. Syrthiodd i lawr, ac yno y bu farw. Ac wrth ddod heibio'r fan y bu i Asahel syrthio a marw, safai pawb yn ei unfan.
24. Ond daliodd Joab ac Abisai i ymlid ar ôl Abner, ac fel yr oedd yr haul yn machlud, daethant at fryn Amma sydd gyferbyn â Gia, i gyfeiriad anialwch Gibeon.