2 Samuel 2:19-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Rhedodd Asahel ar ôl Abner heb wyro i'r dde na'r chwith oddi ar ei ôl.

20. Edrychodd Abner o'i ôl a dywedodd, “Ai ti sydd yna, Asahel?” Atebodd yntau, “Ie.”

21. Dywedodd Abner wrtho, “Tro draw i'r dde neu i'r chwith, a dal un o'r llanciau, a chymer ei arfau ef.” Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl.

22. Dywedodd Abner eto wrth Asahel, “Tro draw oddi wrthyf; pam y mae'n rhaid imi dy daro i'r llawr? Sut y gallwn wynebu dy frawd Joab?”

23. Ond gwrthododd droi draw, a thrawodd Abner ef yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy ei gefn. Syrthiodd i lawr, ac yno y bu farw. Ac wrth ddod heibio'r fan y bu i Asahel syrthio a marw, safai pawb yn ei unfan.

24. Ond daliodd Joab ac Abisai i ymlid ar ôl Abner, ac fel yr oedd yr haul yn machlud, daethant at fryn Amma sydd gyferbyn â Gia, i gyfeiriad anialwch Gibeon.

25. Ymgasglodd y Benjaminiaid at Abner, ac ymffurfio'n un fintai a sefyll ar gopa bryn Amma.

26. Yna gwaeddodd Abner ar Joab a dweud, “A yw'r cleddyf i ddifa am byth? Oni wyddost mai chwerw fydd diwedd hyn? Am ba hyd y gwrthodi ddweud wrth y milwyr am beidio ag erlid eu perthnasau?”

27. Atebodd Joab, “Cyn wired â bod Duw yn fyw, oni bai dy fod wedi siarad, ni fyddai'r milwyr wedi peidio ag ymlid eu perthnasau tan y bore.”

2 Samuel 2