2 Samuel 19:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Dywedodd Meffiboseth wrth y brenin, “Cymered ef y cwbl, gan fod f'arglwydd frenin wedi cyrraedd adref yn ddiogel.”

31. Daeth Barsilai y Gileadiad i lawr o Rogelim a mynd cyn belled â'r Iorddonen i hebrwng y brenin.

32. Yr oedd Barsilai yn hen iawn, yn bedwar ugain oed, ac ef oedd wedi cynnal y brenin tra oedd yn aros ym Mahanaim, oherwydd yr oedd yn ŵr cefnog iawn.

33. Dywedodd y brenin wrth Barsilai, “Tyrd drosodd gyda mi, a chynhaliaf di tra byddi gyda mi yn Jerwsalem.”

2 Samuel 19