2 Samuel 19:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Enillodd galon holl wŷr Jwda'n unfryd, ac anfonasant neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a'th holl ddilynwyr.”

15. Daeth y brenin yn ôl, a phan gyrhaeddodd yr Iorddonen, yr oedd y Jwdeaid wedi cyrraedd Gilgal ar eu ffordd i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr Iorddonen.

16. Brysiodd Simei, mab Gera y Benjaminiad o Bahurim, i fynd i lawr gyda gwŷr Jwda i gyfarfod y Brenin Dafydd.

17. Daeth mil o ddynion o Benjamin gydag ef. A rhuthrodd Siba gwas teulu Saul, gyda'i bymtheg mab ac ugain gwas, i lawr at yr Iorddonen o flaen y brenin,

18. a chroesi'r rhyd i gario teulu'r brenin drosodd, er mwyn ennill ffafr yn ei olwg. Wedi i'r brenin groesi, syrthiodd Simei fab Gera o'i flaen

2 Samuel 19