2 Samuel 18:30-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Dywedodd y brenin, “Saf yma o'r neilltu.” Felly safodd o'r neilltu.

31. Yna cyrhaeddodd yr Ethiopiad a dweud, “Newydd da, f'arglwydd frenin! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi achub dy gam heddiw yn erbyn yr holl rai oedd yn codi yn dy erbyn.”

32. Gofynnodd y brenin i'r Ethiopiad, “A yw'r llanc Absalom yn iawn?” Atebodd yr Ethiopiad, “Bydded i elynion f'arglwydd frenin a phawb sy'n codi yn d'erbyn er drwg, fod fel y llanc.”

2 Samuel 18