2 Samuel 18:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ond atebasant, “Ni chei di ddod. Petaem ni yn ffoi am ein heinioes, ni fyddai neb yn meddwl dim o'r peth; a phetai ein hanner yn marw, ni fyddai neb yn malio amdanom; ond yr wyt ti cystal â deng mil ohonom ni. Felly'n awr y mae'n well i ni dy fod yn aros i'n cynorthwyo o'r ddinas.”

4. Dywedodd y brenin y gwnâi'r hyn a dybient hwy yn orau, a safodd yn ymyl y porth fel yr oedd y fyddin yn mynd allan yn ei channoedd a'i miloedd.

5. Gorchmynnodd y brenin i Joab, Abisai ac Itai, “Er fy mwyn i byddwch yn dyner wrth y llanc Absalom.” Yr oedd y fyddin i gyd yn clywed pan roes y brenin orchymyn i'r capteiniaid ynglŷn ag Absalom.

6. Aeth y fyddin i'r maes i gyfarfod ag Israel, a digwyddodd y frwydr yng nghoetir Effraim.

7. Gorchfygwyd byddin Israel yno gan ddilynwyr Dafydd, a bu colledion mawr yno—ugain mil o fewn y diwrnod hwnnw.

8. Lledodd yr ymladd dros y wlad i gyd, a difaodd y goedwig fwy o'r fyddin nag a wnaeth y cleddyf y diwrnod hwnnw.

9. Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen.

10. Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen.

11. Ac meddai Joab wrth y dyn oedd wedi dweud wrtho, “Os gwelaist ti ef, pam na fu iti ei daro i lawr yn y fan? Fe fyddwn wedi gofalu am roi iti ddeg darn arian a gwregys.”

12. Ond dywedodd y dyn wrth Joab, “Petawn i'n cael mil o ddarnau arian ar gledr fy llaw, ni feiddiwn estyn llaw yn erbyn mab y brenin; oherwydd fe glywsom â'n clustiau ein hunain pan roddodd y brenin orchymyn i ti ac i Abisai ac i Itai, a dweud, ‘Cymerwch ofal, bawb, o'r llanc Absalom.’

13. Pe bawn i wedi troseddu yn erbyn ei einioes, ni fyddai modd cuddio dim rhag y brenin; a byddit tithau wedi sefyll o'r naill ochr.”

14. Atebodd Joab, “Nid wyf am wastraffu amser fel hyn gyda thi.” Cymerodd dair picell yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon, ac yntau'n dal yn fyw yng nghanol y dderwen.

15. Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd.

2 Samuel 18