2 Samuel 18:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, “Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod â neges.”

26. Fel yr oedd yn dal i agosáu, sylwodd y gwyliwr ar ddyn arall yn rhedeg, a galwodd i lawr at y porthor a dweud, “Dacw ddyn arall yn rhedeg ar ei ben ei hun.” Dywedodd y brenin, “Negesydd yw hwn eto.”

27. Yna dywedodd y gwyliwr, “Yr wyf yn gweld y cyntaf yn rhedeg yn debyg i Ahimaas fab Sadoc.” Ac meddai'r brenin, “Dyn da yw hwnnw; daw ef â newyddion da,”

28. Pan gyrhaeddodd Ahimaas, dywedodd wrth y brenin, “Heddwch!” Yna moesymgrymodd i'r brenin â'i wyneb i'r llawr, a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD dy Dduw, sydd wedi cau am y dynion a gododd yn erbyn f'arglwydd frenin.”

2 Samuel 18