2 Samuel 18:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, “Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist.” Moesymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.

22. Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, “Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar ôl yr Ethiopiad.” Gofynnodd Joab, “Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges.”

23. Ond plediodd, “Sut bynnag y bydd, gad imi fynd.” Felly dywedodd wrtho, “Dos, ynteu.” Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.

24. Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.

2 Samuel 18