2 Samuel 16:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yna, pan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom a dweud wrtho, “Byw fyddo'r brenin, byw fyddo'r brenin!”

17. Gofynnodd Absalom i Husai, “Ai dyma dy deyrngarwch i'th gyfaill? Pam nad aethost ti gyda'th gyfaill?”

18. Ac meddai Husai wrth Absalom, “O na, yr wyf fi o blaid yr un a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD, a'r bobl hyn a'r holl Israeliaid, a chydag ef yr arhosaf.

19. Ac at hynny, pwy a ddylwn i ei wasanaethu? Onid ei fab? Fel y bûm yn gwasanaethu dy dad, felly y byddaf gyda thi.”

20. Yna dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, “Rho gyngor inni beth i'w wneud.”

2 Samuel 16