2 Samuel 15:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Meddai Dafydd wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arnaf;

34. ond os ei di'n ôl i'r ddinas a dweud wrth Absalom, ‘Dy was di wyf fi, f'arglwydd frenin; gwas dy dad oeddwn gynt, ond dy was di wyf yn awr’, yna gelli ddrysu cyngor Ahitoffel drosof.

35. Bydd gennyt yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar gyda thi yno; yr wyt i ddweud wrthynt hwy bob gair a glywi o dŷ'r brenin,

36. oherwydd y mae'r ddau fachgen, Ahimaas fab Sadoc a Jonathan fab Abiathar, yno gyda hwy, ac fe gewch anfon ataf trwyddynt hwy bob dim a glywch.”

37. Daeth Husai, cyfaill Dafydd, i'r ddinas fel yr oedd Absalom yn cyrraedd Jerwsalem.

2 Samuel 15