2 Samuel 15:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yr oedd Absalom wedi anfon negeswyr drwy holl lwythau Israel a dweud wrthynt, “Pan glywch sain yr utgorn, cyhoeddwch, ‘Y mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron.’ ”

11. Aeth deucant o wŷr gydag Absalom o Jerwsalem; yr oeddent wedi eu gwahodd, ac yn mynd yn gwbl ddiniwed, heb wybod dim byd.

12. Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau.

13. Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom,

2 Samuel 15