2 Samuel 14:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Joab fab Serfia yn gwybod fod calon Dafydd yn troi at Absalom.

2. Felly anfonodd Joab i Tecoa a chymryd oddi yno wraig ddoeth, a dywedodd wrthi, “Cymer arnat alaru a gwisg ddillad galar, a phaid â'th eneinio dy hun; bydd fel gwraig sydd ers amser maith yn galaru am y marw.

3. A dos at y brenin, a dywed fel hyn wrtho”—a gosododd Joab y geiriau yn ei genau.

4. Aeth y wraig o Tecoa at y brenin, a syrthiodd ar ei hwyneb i'r llawr a moesymgrymu; yna dywedodd, “Rho help, O frenin.”

5. Gofynnodd y brenin iddi, “Beth sy'n dy boeni?” Dywedodd hithau, “Gwraig weddw wyf fi a'm gŵr wedi marw.

6. Yr oedd gan dy lawforwyn ddau fab, ond cwerylodd y ddau allan yn y wlad, heb neb i'w gwahanu; a thrawodd un ohonynt y llall, a'i ladd.

7. Ac yn awr y mae'r holl dylwyth wedi codi yn erbyn dy lawforwyn, a dweud, ‘Rho inni'r hwn a laddodd ei frawd, er mwyn inni ei ladd am fywyd y brawd a lofruddiodd; a difethwn yr etifedd hefyd.’ Felly byddant yn diffodd y marworyn sydd ar ôl gennyf, fel na adewir i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb daear.”

8. Dywedodd y brenin wrth y wraig, “Dos di adref, ac fe roddaf orchymyn yn dy gylch.”

9. Atebodd hithau, “Bydded yr euogrwydd arnaf fi, f'arglwydd frenin, ac ar fy nheulu i; a bydded y brenin a'i orsedd yn ddieuog.”

10. Dywedodd y brenin, “Pwy bynnag fydd yn yngan gair wrthyt, tyrd ag ef ataf fi, ac ni fydd yn dy boeni di byth mwy.”

11. Atebodd hithau, “Bydded i'r brenin ddwyn hyn i sylw'r ARGLWYDD dy Dduw, rhag i'r dialwr gwaed ddistrywio eto, a rhag iddynt ddifetha fy mab.” A dywedodd y brenin, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt pen dy fab syrthio i'r llawr.”

12. Yna dywedodd y wraig, “Gad i'th lawforwyn ddweud un gair eto wrth f'arglwydd frenin.” Dywedodd yntau, “Dywed.”

13. Ac meddai'r wraig, “Pam yr wyt wedi cynllunio fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Wrth wneud y dyfarniad hwn y mae'r brenin fel un sy'n euog ei hun, am nad yw'n galw'n ôl yr un a alltudiodd.

2 Samuel 14