2 Samuel 12:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Ond erbyn hyn y mae wedi marw; pam felly y dylwn ymprydio? A fedraf fi ddod ag ef yn ôl? Byddaf fi'n mynd ato ef, ond ni ddaw ef yn ôl ataf fi.”

24. Cysurodd Dafydd ei wraig Bathseba, ac aeth i mewn ati a gorwedd gyda hi; esgorodd hithau ar fab, a'i alw'n Solomon. Hoffodd yr ARGLWYDD ef,

25. ac anfonodd neges drwy law'r proffwyd Nathan i'w enwi yn Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.

26. Ymosododd Joab ar Rabba'r Ammoniaid, a chipiodd ddinas y brenin.

2 Samuel 12