2 Samuel 12:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Anfonodd yr ARGLWYDD y proffwyd Nathan at Ddafydd; a phan ddaeth, dywedodd wrtho: “Yr oedd dau ddyn mewn rhyw dref, un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd.

2. Yr oedd gan yr un cyfoethog lawer iawn o ddefaid ac ychen;

3. ond nid oedd dim gan yr un tlawd, ar wahân i un oenig fechan yr oedd wedi ei phrynu a'i magu, a thyfodd i fyny ar ei aelwyd gyda'i blant, yn bwyta o'r un tamaid ag ef, yn yfed o'r un cwpan, ac yn cysgu yn ei gôl; yr oedd fel merch iddo.

2 Samuel 12