3. Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, “Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?”
4. Anfonodd Dafydd negeswyr i'w dwyn ato, ac wedi iddi ddod, gorweddodd yntau gyda hi. Yr oedd hi wedi ei glanhau o'i haflendid. Yna dychwelodd hi adref.
5. Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog.
6. Anfonodd Dafydd at Joab, “Anfon ataf Ureia yr Hethiad.”
7. Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel.
8. Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Dos i lawr adref a golchi dy draed.” Pan adawodd Ureia dŷ'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei ôl.
9. Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w dŷ ei hun.
10. Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?”
11. Atebodd Ureia, “Y mae'r arch, ac Israel a Jwda hefyd, yn trigo mewn pebyll, ac y mae f'arglwydd Joab a gweision f'arglwydd yn gwersylla yn yr awyr agored. A wyf fi am fynd adref i fwyta ac yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, ni wnaf y fath beth!”
12. Dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Aros di yma heddiw eto, ac anfonaf di'n ôl yfory.” Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw.
13. A thrannoeth gwahoddodd Dafydd ef i fwyta ac yfed gydag ef, a gwnaeth ef yn feddw. Pan aeth allan gyda'r nos, gorweddodd ar ei wely gyda gweision ei feistr, ac nid aeth adref.
14. Felly yn y bore ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a'i anfon gydag Ureia.
15. Ac yn y llythyr yr oedd wedi ysgrifennu, “Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae'r frwydr boethaf; yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw.”
16. Pan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, gosododd Ureia yn y lle y gwyddai fod ymladdwyr dewr.
17. A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd.