17. Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod i Helam. Trefnodd y Syriaid eu rhengoedd yn erbyn Dafydd a rhyfela yn ei erbyn.
18. Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith gant o wŷr cerbyd a deugain mil o farchogion;
19. a hefyd fe drawodd Sobach, y pencapten, a bu yntau farw yno. Pan welodd yr holl frenhinoedd oedd dan awdurdod Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch ag Israel a phlygu i'w hawdurdod. Wedi hyn ofnai'r Syriaid roi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.